![]() |
||||
|
|
Adeiladwyd ein cenelau i gyd i orgyrraedd y gofynion safonol. Mae gennym amrediad o genelau o rai sengl i faint teulu. Gwresogir y llety cyfan i sicrhau fod eich anifail anwes yn gysurus a darparwn welyau plastig a dillad gwely hefyd i gadw anifeiliaid anwes yn sych a chynnes. Serch hynny, mae croeso i chi ddod â’u basged a’u dillad gwely personol yn ogystal â thegan neu unrhyw beth a fydd yn eu helpu i deimlo’n gartrefol yn ystod eu harhosiad gyda ni. Yswiriant: Mae’r holl anifeiliaid anwes wedi eu hyswirio yn ystod eu harhosiad gyda ni. Dylai perchnogion ein hysbysu o unrhyw salwch blaenorol neu barhaol cyn preswylio. Bwydo: Darparwn brydau bwyd ansawdd uchel i’n holl breswylwyr. Nid oes cost ychwanegol pe dymunwch ddod â bwyd eich hun i’ch anifail anwes os yw ar ddiet arbennig. Meddyginiaethau: Yr ydym yn hapus i roi unrhyw feddyginiaeth i’ch anifeiliaid anwes os oes angen. Gellir trafod hyn wrth gyrraedd. Brechiadau: Mae’n RHAID darparu tystysgrifau brechu cyfredol ar gyfer pob ci/cath wrth gyrraedd. Ni dderbynnir unrhyw anifail anwes heb dystysgrif brechu gyfredol. |
|||
|
||||
© Cenelau Ty Gwyn 2007|| Safle wedi'i dylunio gan EoWales a Happy Go Digital