logo of Ty Gwyn Kennels - Cenelau Ty Gwyn Kennels and Cattery
 

hafan||gwasanaethau||cysylltiadau||cyswllt galeriarchebion|| oriau agor || taliedau ||cael taflen ||gwobrau||parlwr trin cŵn || bwthyn gwyliau

 

Small Map of where Ty Twyn Kennels is located
Ffon: 01656 783122

 



 



Gwobrau

"Cwlwm Busnes" Gwobrau 2009

Business Awards 2009- Ty Gwyn Kennels

(Cliciwch ar y lluniau i gael eu gweld yn fwy o faint)

Business Awards 2009

(Cliciwch ar y lluniau i gael eu gweld yn fwy o faint)

Awards- Tygwyn-Kennels 2009

(Cliciwch ar y lluniau i gael eu gweld yn fwy o faint)

Olive Corner o Genelau Tŷ Gwyn yn derbyn Tlws KTS Owens Thomas gan y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones yng Nghinio Blynyddol Cwlwm Busnes Caerdydd

GWOBRWYO BUSNES Y FLWYDDYN
Olive Corner o Genelau Tŷ Gwyn, busnes teuluol sy’n darparu llety ar gyfer cŵn a chathod, a dderbyniodd wobr arbennig Busnes y Flwyddyn yng Nghinio Blynyddol Cwlwm Busnes Caerdydd ym mis Mawrth.
Cyflwynwyd Tlws KTS Owens Thomas, a gwobr gwerth £1,000, i fusnes neu fenter newydd ifanc a ddatblygwyd gan Gymro neu Gymraes yng nghylch Caerdydd. Tri chwmni ddaeth i’r brig – Canolfannau Pêl-droed Gôl yn Nhreganna, Practis Ffisiotherapi Penarth a Chlinic Anafiadau Chwaraeon, a Cenelau Tŷ Gwyn ym Mhorthcawl.

Dywedodd John Elfed Jones, un o feirniaid y wobr, fod y tri chwmni a ddaeth i’r brig yn esiamplau o gwmnïau blaengar gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol ac ymrwymiad gwirioneddol at yr iaith Gymraeg.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a gyflwynodd y wobr i Olive Corner ac fe siaradodd o flaen dros 120 o Gymru Cymraeg byd busnes Caerdydd a’r Cylch am gynlluniau’r Llywodraeth i ddatblygu’r A470 rhwng y de a’r gogledd. Cynhaliwyd y Cinio Blynyddol yng ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd a’r noddwyr oedd cwmni cyfathrebu StrataMatrix.

 

 
 

www.tygwyn-kennels.co.uk

image of black dog paws

 
 

© Cenelau Ty Gwyn 2007|| Safle wedi'i dylunio gan EoWales a Happy Go Digital